@dref mp3 radio siartiau dolenni cysylltu



Mi oedd SJ Ohm a fi yn eistedd ar y tren i Gasnewydd yn sipian Stella Artois ar y diwrnod poethaf erioed o haf. Roedden ni ar y ffordd i chwarae yn y dive mwyaf yr ochr yma o Calcutta, sef y "chwedlonnol" TJ's. O ni heb fod nol i Gasnewydd ers 1997 pan nes i dropio pedwar pill a gyrru rownd a rownd roundabout. Doedd da fi dim cliw sut oedd cael mas o'r dre ac a dweud y gwir odd gen i ddim syniad beth ddiawl o ni'n neud. Nes i ddechre halucinatio a gweld slygs melyn anferth ar ddashboard y car, ac am rhyw rheswm roedd un o fy ffrindiau yn y cefn yn dechre troi i edrych fel ceffyl. Ffyc knows sut, ond ffindes i'n ffordd mas o Gasnewydd a bomio lawr yr M4... ond gorfod stopio bob hanner milltur i gael piss 'cos yr holl ffycin ddwr o ni wedi yfed ar ol cymryd gymaint o E.

Ta beth, nol i'r presennol, erbyn hyn mi oedd y gwres a'r Stella wedi mynd i'm mhen i ag mi nath fi a Ohm ffindo'n ffordd i TJ's, via'r off licence. Roedd y DJ box yn llai na cell swyddfa Heddlu Lepricons a nes i ddechre sbinio set noize-hop yn cymysgu Kid 606 a LL Cool J. Doedd y goths a'r rock-headz lleol ddim yn siwr o hyn. Erbyn i fi withio'r BPM lan a dropio drwm a bas o dan ambience swn undonog, o ni'n dechre gweld dwbwl a'n meddwl mod i'n micsio ar bedwar deck. Pan ddaeth yr in-house DJ 'mlaen nes i aros yn y bocs clostroffobic a mwydo'r boi i ddefnyddio records yn lle y ffycin CD's bach pocsi oedd e'n chware... peth nesaf dwi'n cofio ydy cwympo allan o daxi yng Nghaerdydd a ffeindio tomatos a madarch yn fy mhocedi. Lwcus nes i ddim gyrru i Gasnewydd tro hyn.


DJ Lambchop Mics Amgen MP3 [1.3MB]
DJ lambchop Iawn? MP3 [6.3MB]
DJ Lambchop Cashing In On Cool Cymru MP3 [2.9MB]