Mae Radio Amgen yn podledu pob sioe, y wefan gynta i wneud hynny yn y Gymraeg. Beth yw podledu? Yn syml, ffordd o danysgrifio i'r sioeau yw podledu. Mae hyn yn golygu na fydd rhaid ymweld a'r safle i wybod fod sioe newydd wedi ei chyhoeddi. Dyma dri ffordd o danysgrifio i'r podlediad:
Os oes gennych chi feddalwedd iTunes ar eich cyfrifiadur mae'n bosib tanysgrifio drwy glicio ar y ddolen yma. Fe fydd hwn yn agor iTunes gyda gwybodaeth am y sioe. Drwy danysgrifio, fe fydd iTunes yn llwytho sioeau newydd i'ch cyfrifadur yn otomatig.
Er fod iTunes wedi ei addasu yn ddiweddar i gefnogi podlediadau, mae meddalwedd arbennigol wedi bod ar gael ers tipyn, sydd yn gadael i chi danysgrifio o bodlediad a hyd yn oed ei drosglwyddo'r sioe yn otomatig i'ch iPod neu'ch chwaraewr MP3.
Rydym yn argymell meddalwedd iPodder ond mae digon o ddewis ar gael.
Os ydych yn defnyddio darllenydd RSS (gweler isod am feddalwedd) er mwyn darllen y negeseuon diweddaraf er eich hoff flogiau, mae'n bosib tanysgrifio i'r ffeil RSS yn union yr un fath. Fe fyddwch wedyn yn gweld dolen er mwyn llwytho lawr ffeil MP3 ar gyfer pob sioe. Copiwch a gludwch y cyfeiriad canlynol i'ch meddalwedd:
Meddalwedd: