Sefydliad di-elw ydi Radio Amgen a lansiwyd yn 2001 gan DJ Lambchop yn sgil diffyg allbwn ar gyfer cerddoriaeth amgen ac arbrofol yng Nghymru.

Ar y pryd roedd Lambchop yn derbyn llawer o ddemos diddorol gan nifer fawr o artistiaid ond oherwydd diffyg cyllideb ariannol doedd dim posib iddo rhyddhau'r holl gynnyrch hwn. Er mwyn rhannu'r gerddoriaeth newydd yma a chynulleidfa eang a rhoi cyfle i artistiaid amgen nad oedd yn derbyn unrhyw sylw gan gyfryngau Cymru, penderfynodd Lambchop droi at gyfrwng gwahanol, sef y we.

Fe'i ysbrydolwyd gan yr orsaf radio Cymraeg gyntaf ar y we, sef Radio D. Ffrwyth llafur Johnny R o Recordiau R-Bennig oedd Radio D a ddaeth i ben ychydig fisoedd cyn geni Radio Amgen. Darlledwyd y sioe gyntaf ym mis Hydref 2001. Ethos cerddorol Radio Amgen oedd darparu cerddoriaeth danddaearol newydd gyda'r pwyslais ar hip hop, electroneg, drwm a bas, bwtlegs, tecno, swn a dyb i wrandawyr ledled y byd.

Bu cyfnod cyntaf yr orsaf rhwng Hydref 2001 a Thachwedd 2002 a darlledwyd 50 o sioeau yn wythnosol gan gynnwys sesiynau egsgliwsif gan yr Athro Diflas Ffwc ac Y Soffas (enw gwreiddiol Y Lladron), Stylus, Y Celfi Cam, SJ Ohm, Gwalchmai Teleffon X-Change a Y Dull Duckworth Lewis. Yn ogstal, darlledwyd setiau o berfformiadau byw gan Llwybr Llaethog, Trawsfynydd Lo-Fi Liberation, Labordy Swn Cont... a derbyniwyd nifer fawr o sioeau gan DJs a chynhyrchwyr fel Recall a DJ Dai Trotski. Erbyn yr hanner canfed sioe, newidiodd cyfrwng sioeau Radio Amgen o RealAudio i mp3. Golygai hyn y gallai gwrandawyr islwytho ac arbed y sioeau i'w chwaraewyr mp3 a llosgi'r cyfan ar CD.

Er bod y wefan ei hun yn uniaith Gymraeg, mae'n eithaf hawdd i unrhyw un di-Gymraeg islwytho sioeau ac mae gan yr orsaf wrandawyr yn yr UDA, Ffrainc, Siapan, yr Almaen ayyb. Roedd pethau'n edrych yn iach i'r orsaf gyda dros 2500 ergyd y mis ar gyfartaledd, ond yn sgil trafferthion technegol ac ariannol aeth yr orsaf yn dawel ar ol darlledu 50 o sioeau bob wythnos.

Dychwelodd Radio Amgen unwaith eto rhwng Ebrill ac Awst 2003 gan barhau i ddarlledu'n wythnosol. Darlledwyd naw sioe gan gynnwys sesiwn egsgliwsif gan Kentucky AFC. Daeth y cyfnod byr hwn i ben yn dilyn cyfuniad o ddiffyg arian, adnoddau, cysylltiad gwe a phroblemau personol ym mywyd DJ Lambchop.

Ers mis Awst 2005 a bellach yn ei thrydydd cyfnod, mae Radio Amgen unwaith eto yn darlledu sioeau wythnosol a dyma'r wefan gyntaf yn y byd i podgastio rhaglennu Cymraeg.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfrannu mewn unrhyw fodd, byddai DJ Lambchop yn falch i gael clywed gennych chi. Cysylltwch hefyd os oes gennych chi ddiddordeb mewn creu sioe ar gyfer yr orsaf.



Adref | Archif | Dolenni | Cyswllt